SL(6)266 - Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Datblygu Cyffredinol a Ganiateir etc.) (Diwygio) (Cymru) 2022

Cefndir a Diben

Mae Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Datblygu Cyffredinol a Ganiateir) 1995 (y“GDCG”), fel y'i diwygiwyd, yn caniatáu ar gyfer gwneud rhywfaint o waith datblygu,o fewn paramedrau penodol, heb fod angen cyflwyno cais cynllunio. Gelwir hyn yn“ddatblygu a ganiateir”.

Mae Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Datblygu Cyffredinol a Ganiateir etc.)(Diwygio) (Cymru) 2022 (“Gorchymyn Diwygio GDCG 2022”) yn diwygio'r GDCG. Mae effeithiau’r diwygiadau hyn yn cynnwys:

-      caniatáu i awdurdodau cynllunio lleol a Gweinidogion Cymru gyfarwyddo na fydd unrhyw ddatblygiad neu ddatblygiad penodol a ganiateir o dan erthygl 3 o'r GDCG yn gymwys mewn perthynas ag ardal benodedig;

-      cyflwyno Atodlen 2A newydd. Mae Atodlen 2A yn nodi gweithdrefnau newydd y bydd yn rhaid eu dilyn wrth wneud, amrywio neu dynnu'n ôl unrhyw gyfarwyddyd a wneir o dan erthygl 4(1) o'r GDCG. Hefyd, mae Atodlen 2A yn cyflwyno dau fath o gyfarwyddyd y gellir eu gwneud: cyfarwyddyd a ddaw i rym ar unwaith a chyfarwyddyd na ddaw i rym ar unwaith. 

-      dileu'r gofyniad i Weinidogion Cymru gadarnhau cyfarwyddyd Erthygl 4, gan ei gwneud yn ofynnol, yn hytrach, yn y rhan fwyaf o achosion, i'r awdurdod cynllunio lleol roi hysbysiad i Weinidogion Cymru ar ôl cael cadarnhad o gyfarwyddyd.

-      diwygio Rhan 3 (newid defnydd) o Atodlen 2 i Orchymyn 1995 drwy fewnosod dau ddosbarth newydd, sef Dosbarth I a Dosbarth J. 

o          Mae Dosbarth I yn cyflwyno nifer o hawliau datblygu a ganiateir newydd ar gyfer achosion diderfyn o newid defnydd, gan gynnwys defnydd cymysg, rhwng Dosbarth Defnydd C3 (Tai Annedd, a ddefnyddir fel unig breswylfeydd neu brif breswylfeydd); dosbarth defnydd C5 (Tai annedd, a ddefnyddir fel arall heblaw fel unig breswylfa neu brif breswylfa) a dosbarth defnydd C6 (Llety gosod tymor byr). Mae'r datblygu a ganiateir yn ddarostyngedig i gyfyngiadau. 

o          Mae Dosbarth J yn cyflwyno nifer o hawliau datblygu a ganiateir newydd o ddefnydd fel swyddfa fetio i ddefnydd o fewn Dosbarth A1(siopau); neu Ddosbarth A2 (gwasanaethau ariannol a phroffesiynol); neu ddefnydd cymysg sy'n perthyn i Ddosbarth A1 neu Ddosbarth A2, yn ogystal ag un fflat.  Mae Dosbarth J hefyd yn caniatáu newid defnydd o ddefnydd cymysg fel swyddfa fetio ac un fflat i ddefnydd o fewn Dosbarth A1 neu Ddosbarth A2, neu ddefnydd cymysg sy'n perthyn i Ddosbarth A1 neu Ddosbarth A2, yn ogystal ag un fflat, a defnydd fel swyddfa fetio. Mae'r datblygu a ganiateir yn ddarostyngedig i gyfyngiadau. 

Mae erthygl 3(2) yn diwygio Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Digolledu) (Cymru) (Rhif 2)

2014 (OS 2014/2693 (Cy.268)) (“Rheoliadau 2014”) drwy ychwanegu dosbarth datblygu newydd at y rhestr o hawliau datblygu a ganiateir lle y caiff digollediad ar ôl tynnu'r hawl yn ôl ei gyfyngu mewn ffyrdd amrywiol a ddarperir yn Rheoliadau 2014. Gwneir mân ddiwygiadau hefyd i Reoliadau 2014.

Gweithdrefn

Negyddol.

Gwnaed y Gorchymyn gan Weinidogion Cymru cyn iddo gael ei osod gerbron y Senedd.  Gall y Senedd ddirymu'r Gorchymyn o fewn 40 diwrnod (ac eithrio unrhyw ddyddiau pan fo’r Senedd: (i) wedi’i diddymu, neu (ii) mewn cyfnod o doriad am fwy na phedwar diwrnod) i'r dyddiad y’i gosodwyd gerbron y Senedd.

Materion technegol: craffu

Nodwyd y ddau bwynt a ganlyn i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â'r offeryn hwn.

1. Rheol Sefydlog 21.2(v) - bod angen eglurhad pellach ynglŷn â’i ffurf neu ei ystyr am unrhyw reswm penodol.

Mae Erthygl 2(4) yn mewnosod Atodlen 2A newydd yn y GDCG. Mae paragraff 1(12) o'r Atodlen 2A newydd yn nodi y caiff awdurdod cynllunio lleol, drwy wneud cyfarwyddyd dilynol, dynnu'n ôl unrhyw gyfarwyddyd a wnaed ganddo o dan Erthygl 4(1) y GDCG. Mae paragraff 1(14) o Atodlen 2A newydd yn mynd ymlaen i nodi, pan fo'r awdurdod cynllunio lleol yn gwneud cyfarwyddyd o dan baragraff 1(12), bydd paragraffau 1(1) i 1(11) o Atodlen 2A yn gymwys (yn ddarostyngedig i eithriad nad yw'n uniongyrchol berthnasol i'r pwynt adrodd hwn).

Mae paragraffau 1(1) i 1(11) o Atodlen 2A yn nodi amrywiol ofynion y mae’n rhaid eu dilyn pan wneir cyfarwyddyd o dan Erthygl 4(1) o’r GDCG. Nid yw'n glir pa un o'r gofynion hyn y mae'n rhaid parhau i'w dilyn pan wneir cyfarwyddyd o dan baragraff 1(12) o Atodlen 2A. Mae geiriad paragraff 1(14) yn nodi y bydd yr holl ofynion ym mharagraffau 1(1) i 1(11) yn gymwys, ond nid yw'n ymddangos bod hyn yn ymarferol. Er enghraifft, mae paragraff 1(4)(c) o Atodlen 2A newydd yn ei gwneud yn ofynnodl bod yn rhaid i hysbysiad a roddir o gyfarwyddyd ddatgan y rhoddir y cyfarwyddyd o dan Erthygl 4(1), ond ni fyddai hynny'n wir os yw'r hysbysiad yn ymwneud â chyfarwyddyd a wneir o dan baragraff 1(12). Felly, gofynnir i Lywodraeth Cymru egluro sut y bydd cymhwyso paragraffau 1(1) i 1(11) o'r Atodlen 2A newydd i gyfarwyddiadau a wneir o dan baragraff 1(12) yn gweithio'n ymarferol.

2. Rheol Sefydlog 21.2(vii) – ei bod yn ymddangos bod anghysondebau rhwng ystyr testun Cymraeg a thestun Saesneg yr offeryn neu’r drafft.

Yn erthygl 2(2), mae'r geiriau agoriadol yn y testun Saesneg yn nodi “For article 4-” ond y cyfieithiad Cymraeg o’r testun cyfatebol yw "Yn erthygl 4". Defnyddir “For” fel arfer wrth ddisgrifio pa ddarpariaeth neu eiriau sydd i'w rhoi yn eu lle. Mewn gwirionedd, fodd bynnag, mae'n disgrifio’r lleoliad y mewnosodir y gwelliannau ac “In” ddylai fod.

Yn ogystal, yn nhroednodyn (2) ar dudalen 3 o Orchymyn 2022, yn yr ail linell, mae gwahaniaeth rhwng y testun yn y ddwy iaith. Yn y testun Cymraeg, mae'r rhestr o adrannau yn cynnwys "61(1) a (3)" sy'n gyson â'r rhai a ddyfynnir yn y rhagymadrodd, tra bo'r testun Saesneg ond yn nodi "61(1)".

Rhinweddau: craffu    

Ni nodir unrhyw bwyntiau ar gyfer adrodd arnynt o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â'r offeryn hwn.

Ymateb Llywodraeth Cymru

Mae angen ymateb gan Lywodraeth Cymru.

Cynghorwyr Cyfreithiol

Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad

4 Hydref 2022